Iphigenia yn Sblot (Sherman Theatre)
Pwerus. Pwysig. Cyfareddol.
Profwch y clasur cyfoes Cymreig gyda chynhyrchiad newydd o bwys.
Mae bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu’r byd, gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn fyd-eang.
Nawr yn 2024, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd, yn fwy perthnasol ac ystyrlon nag erioed. Daw cynhyrchiad pwerus Alice Eklund o’r cyfieithiad Cymraeg newydd sbon â’r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto, gyda pherfformiad grymus gan Seren Hamilton. Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, mae’r ddrama un fenyw yma’n ysgytwad holl bwysig.
Perfformir yn Gymraeg. Mae capsiynau Saesneg ar gael ym mhob perfformiad.
Yn baglu lawr Stryd Clifton yn feddw am 11.30am... osgoi merch fel Effie fydd y rhan fwyaf o bobl. Chi'n meddwl eich bod yn ei 'nabod hi, ond does dim clem gennych chi. Mae bywyd Effie'n gorwynt beunyddiol o ddiod, cyffuriau a drama, a'r pen mawr y bore nesaf yn waeth nag angau. Tan un noson, mae cyfle'n dod iddi fod yn fwy na hyn
Pum peth y dylech wybod am Iphigenia yn Sblot:
Mae teitl Iphigenia yn Sblot yn cyfeirio at fytholeg Roegaidd
Ysbrydolwyd Iphigenia yn Sblot gan y cymeriad Groegaidd, Iphigenia, a gyniwyd fel aberth i ddyhuddo duwies, ac er lles y Groegiaid. Mae drama Gary Owen yn cymryd aberth fel thema ac yn ei osod yn ein cymdeithas gyfoes.
Mae Iphigenia yn Sblot yn gyfieithiad Cymraeg o ddrama glodfawr Gary Owen
Yn dilyn perfformiadau cyntaf yn y Sherman yn 2015, aeth Iphigenia in Splott ymlaen i’w pherfformio’n rhyngwladol mewn lleoliadau sy’n cynnwys Gŵyl Ymylol Caeredin, National Theatre Llundain, Theatrau 59E59 yn Efrog Newydd, Y Schaübhne ym Merlin a Gŵyl Avignon. Yn fwyaf diweddar fe adfywiwyd y ddrama yn y Lyric Hammersmith, Llundain. Yn sgil ei llwyddiant, fe ymddangosodd y ddrama ar restr y Guardian o’r “50 Sioe Theatr Orau o’r 21ain Ganrif”.
Mae’r ddrama’n defnyddio’r math o Gymraeg y byddwch yn debygol o’i glywed yng Nghaerdydd bob dydd
Mae’r cyfieithiad Cymraeg newydd yma o Iphigenia yn Sblot yn cyfleu cymeriad Effie drwy’r ffordd y mae hi’n siarad. Dywed y cyfarwyddwr, Alice Eklund, “mae’n teimlo fel y Gymraeg glywais wrth dyfu i fyny, y math o Gymraeg roeddwn i’n ei rhannu gyda ffrindiau yn yr ysgol, y Gymraeg dwi’n ei chlywed nawr yn y ddinas.” Mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys capsiynau Saesneg integredig ym mhob perfformiad.
Ysbrydolwyd cynllun Iphigenia yn Sblot gan ardal Sblot
Mae’r set, y goleuo a chynllun y tafluniad yn plethu delweddau o ardal Sblot. Mae’r Cynllunydd Sain, Tic Ashfield, yn defnyddio seiniau a recordiwyd yn Sblot er mwyn creu cerddoriaeth sy’n sownd yn yr ardal leol.
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys rhai wynebau cyfarwydd ac un wyneb newydd sbon
Mae Iphigenia yn Sblot yn cyflwyno Seren Hamilton yn ei rôl broffesiynol gyntaf, ac yn cael ei chyfarwyddo gan Alice Eklund (Cyfarwyddwr Cyswllt Tales of the Brothers Grimm, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Hansel and / a Gretel). Mae gwaith Gary Owen yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd y Sherman, gyda Romeo and Julie yn llwyddiant yn 2023, ac A Christmas Carol yn dychwelyd i’r Sherman y Nadolig hwn yn dilyn perfformiadau yn 2019.
Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Rhybudd manwl Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig, yn ogystal â golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa.
Llun: Burning Red
£15 (£12)