Jeremy Hardy

COMEDI YNG NGHASTELL ABERTEIFI 

Bydd Jeremy Hardy yn dechrau ar ei bedwaredd ddegawd fel comedïwr stand up eleni. Mae’n enwog am ei ddarllediadau radio, gan gynnwys Jeremy Hardy Speaks to the Nation, a gyrhaeddodd ei ddegfed gyfres y llynedd.  Yn ogystal mae wedi bod yn teithio a chyflwyno sioeau llwyfan byw ers 1984.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n Penwythnos o Gomedi 6-9 Gorffennaf

NODWCH  OS GWELWCH YN DDA

Rydym yn cynnig pris consesiynol  arbennig o £5 i Geiswyr Gwaith / pobl sy’n derbyn cymhorthdal incwm ar gyfer y sioe hon. Rhaid dangos prawf statws i’r Swyddfa Docynnau ar adeg prynu tocynnau. Yn anffodus ni allwn gynnig y tocynnau £5 ar-lein, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 01239 621200 neu galwch heibio os hoffech brynu tocynnau am y pris consesiynol hwn.

Yn addas i 14+  

PERFFORMIAD YN YR IAITH SAESNEG  

 

GWYBODAETH HANFODOL

Darperir seddau yn y digwyddiad hwn ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd safle'r Castell ar agor o 5yh cyn sioeau comedi heno a bydd lluniaeth ar gael. Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn i ddigwyddiad comedi gychwyn.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle. 

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Mae’r digwyddiadau hyn o dan do, ond dewch â dillad cynnes priodol gyda chi.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwyddiad hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw.  

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

 

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

 

£14, £5 i Geiswyr Gwaith

Browse more shows tagged with: