KT Tunstall
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN / CARDIGAN CASTLE
+ DJ Wozza Woz (support)
Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi yr anhygoel KT Tunstall, yn fyw yng Nghastell Aberteifi yr haf hwn!
Ers ffrwydro i’r sîn yn 2004 gyda’i halbwm début hynod lwyddiannus, mae Tunstall sydd wedi gwerthu miliynau o albymau, wedi mwynhau llwyddiant ar ôl llwyddiant gyda chaneuon mawr, nifer o wobrau (Gwobr Ivor Novello a Gwobr Brit, enwebiadau Grammy a Gwobr Mercury) ac mae nifer o’i chaneuon wedi eu defnyddio mewn sioeau teledu a ffilmiau (gan gynnwys The Devil Wears Prada).
Yn dilyn colli ei thad a’i hysgariad, symudodd Tunstall i Venice Beach, Califfornia. Ar ôl cyfnod o fyfyrio, profodd fath o ailenedigaeth greadigol a chafodd ei hawydd i wneud recordiau ac i deithio ei aildanio. Erbyn hyn, mae’n ddwy ran o dair o’r ffordd drwy drioleg o albymau, yn galw, yn ôl eu trefn, ar: yr ysbryd (KIN), y corff (WAX) a’r meddwl (i’w gadarnhau!). Yn ddiweddar, perfformiodd Tunstall fel yr artist arweiniol mewn cyfres o sioeau hynod lwyddiannus ar draws y DU a’r Unol Daleithiau ynghyd â theithio gyda The Pretenders, Simple Minds, Barenaked Ladies a Gary Barlow.
Yr haf hwn, wrth iddi deithio albwm WAX, gyda’i roc a rôl anturus, brwdfrydig, pendant a hollol chwantus ar draws Ewrop a’r Unol Daleithiau gyda band sy’n ferched i gyd, disgwyliwch weld artist byw cyfareddol sydd ar ei gorau, trwbadŵr roc-pop, a sioe a hanner! “Roedd gwneud y record hon” meddai Tunstall yn wên o glust i glust, “yn teimlo’n hynod o dda.”
£25