Martin & Eliza Carthy
Mae Martin Carthy a’i ferch Eliza Carthy, sydd wedi ei henwebu ddwywaith am wobr Mercury, yn uno’u doniau. Cantor baledau a gitarydd enwog yw Martin Carthy sydd wedi dylanwadu cenhedlaeth o artistiaid, gan gynnwys Bob Dylan a Paul Simon, tra bod Eliza wedi ei henwebu ddwywaith am Wobr Cerddoriaeth Mercury ac mae’n enillydd gwobrau niferus yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio Two.
Am fwy na 50 mlynedd mae Martin Carthy wedi bod yn un o arloeswyr blaenaf cerddoriaeth werin, ac un o’i bersonoliaethau mwyaf annwyl, mwyaf brwdfrydig, ac ar adegau, mwyaf dadleuol. Mae ei ddawn, presenoldeb llwyfan a’i swyn naturiol wedi denu nifer o edmygwyr, nid yn unig o tu fewn y sin gwerin, ond hefyd ymhell y tu hwnt iddo.
Mae Eliza Carthy heb os yn un o’r perfformwyr mwyaf trawiadol a hoffus ei chenhedlaeth. Wedi ei henwebu ddwywaith am Wobr Mercury ac yn enillydd gwobrau di-ri ar hyd gyrfa 20 mlynedd, mae Eliza wedi perfformio a recordio gydag amrywiaeth eang o artistiaid gan gynnwys Paul Weller, Rufus a Martha Wainwright, Patrick Wolf a Bob Neuwirth. Yn fwy na’r rhan fwyaf, mae Eliza wedi ailfywiogi cerddoriaeth werin ac wedi bachu’r bobl fwyaf gwrthwynebus gyda’i pherfformiad deallus, carismatig sy’n croesi ffiniau.