Maya Youssef
‘Dechreuodd y rhyfel yn fy mamwlad yn 2011. O hynny ymlaen nid oedd creu cerddoriaeth bellach yn ddewis, roedd yn fodd hanfodol o fynegi a dod i delerau â theimladau dwys o golled a thristwch o weld fy mhobl yn dioddef a fy ngwlad wedi ei dinistrio. Ar brynhawn poeth o’r haf yn Llundain, roeddwn yn gwylio’r newyddion. Teimlais wedi fy ngorlethu, fel petai fy mod ar fin ffrwydro, felly gafaelais yn fy qānūn a daeth ‘Syrian Dreams’ allan ohonof. Dyna’r darn cyntaf oll o gerddoriaeth a ysgrifennais.’ Mae’r chwaraewr qānūn penigamp, Maya Youssef, yn westai rheolaidd ar y BBC a pherfformiodd yn y BBC Proms yn Neuadd Frenhinol Albert.
£15 (£14) £3
powerful homage twists Arabic music cliches
The Guardian
She is a master of her instrument
Songlines
This luminous album might be a response to tragedy but it is also colourful and vibrant, displaying great virtuosity
New Internationalist