Mid Wales Opera: Trouble In Tahiti
Mae opera un act Bernstein yn ddadansoddiad cain o'r Freuddwyd Americanaidd wych, trwy lygaid Sam a Dinah yn nhŷ Pastel a phriodas ffens polion gwyn yr 1950au. Mae triawd 'scat' Jazz yn rhoi sylwebaeth wrth i'r cwpl osgoi realiti eu perthynas. I Sam mae'n golygu ei gyfeillion yn y gampfa a'i waith, ac i Dinah ei therapydd a dihangfa ogoneddus Hollywood – a oes bywyd ar ôl yn eu 'priodas berffaith'?
Wedi'i pherfformio yn nhrefniant siambr Yannotta ar gyfer saith offerynwr, gyda chast o bump dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd OCC o'r piano, mae'r opera'n llenwi hanner cyntaf y noson, gyda'r ail hanner yn dathlu opera a theatr gerddorol Americanaidd, gyda thema Y Freuddwyd Americanaidd, yn cynnwys yr holl berfformwyr.
Cerddoriaeth a Libreto: Leonard Bernstein
Trefniant Siambr gan Bernard Yannotta
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
£18 full (£5 o dan 21 oed)