Mike Bubbins: Solid Gold

COMEDI YNG NGHASTELL ABERTEIFI 

Mae Mike Bubbins, un o gomediwyr gorau Cymru yn cychwyn allan ar ei daith gyntaf gyda 90 munud o’i ddarnau gorau hyd yn hyn. Cewch glywed Bubbins ar BBC Radio Wales yn rheolaidd. Bydd ei arddull arsylwadol ynghyd â’i ddawn naturiol am adrodd stori yn gosod y seiliau ar gyfer noson o gomedi wych. Peidiiwch â cholli seren Gymreig ar ei hanterth ar ei daith stand-up cyntaf o amgylch y wlad.      

PERFFORMIAD YN YR IAITH SAESNEG   

Yn addas i 14+

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n Penwythnos o Gomedi 6-9 Gorffennaf

 

GWYBODAETH HANFODOL

Darperir seddau yn y digwyddiad hwn ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd safle'r Castell ar agor o 5yh cyn sioeau comedi heno a bydd lluniaeth ar gael. Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn i ddigwyddiad comedi gychwyn.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle. 

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Mae’r digwyddiadau hyn o dan do, ond dewch â dillad cynnes priodol gyda chi.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwyddiad hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw.  

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

 

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

  • Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)
  • Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol
  • Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)
  • Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

£10 (£9)
A true raconteur and a fine observational comedian… regales his fans with the sublime and the surreal
Wales Online
Sets the bar ridiculously high
Buzz Magazine

Browse more shows tagged with: