The Rheingans Sisters

Mae'r Rheingans Sisters yn creu cerddoriaeth chwareus, bwerus sy'n gwbl gyfoes tra bod ei gwreiddiau’n ddwfn mewn traddodiadau gwerin. Enwebir yr aml-offerynwyr, cyfansoddwyr ac ysgolheigion gwerin gwobrwyedig hyn am y 'Deuawd/Grŵp Gorau' yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.

Dros y pum mlynedd diwethaf, ac ar ôl ennill tri albwm o fri beirniadol a Gwobr Werin BBC Radio 2 am y 'Trac Gwreiddiol Gorau' yn 2016, mae cynulleidfaoedd ledled y DU, Ewrop ac Awstralia wedi eu swyno'n llwyr gan eu perfformiadau byw arbennig dros ben. Gan dynnu ar eu hysgolheictod cerddorol pan-Ewropeaidd a'u cenhadaeth ysblennydd i wneud cysylltiadau rhwng cerddoriaeth o wahanol wreiddiau daearyddol, maen nhw wedi datblygu dull artistig cyfoethog o ddadadeiladu ac ail-drefnu cerddoriaeth draddodiadol ochr yn ochr â'u cyfansoddiadau beiddgar eu hunain. Yn perfformio'n fyw, mae'r chwiorydd heb eu hail; maen nhw’n berfformwyr llawn calon ac yn gerddorion byrfyfyr digymell ar y llwyfan, ac yn gwneud defnydd anturus o ffidlau, lleisiau, banjo, bansitar, tambourin à cordes, gair llafar, traed dawnsio ac offerynnau taro.

Ni ddylech golli’r act unigryw hwn ar y llwyfan cerddoriaeth werin a byd heddiw. Mae Rowan ac Anna yn chwarae llu o offerynnau yn eu sioeau byw, llawer ohonynt wedi'u gwneud â llaw gan eu tad Helmut Rheingans sydd wedi'i leoli yn eu cartref brodorol yn Ardal y Copaon.

 

Rhyddhaodd y Rheingans Sisters eu pedwerydd albwm hir-ddisgwyliedig 'Receiver' yn 2020 ar Label Bendigedig. 

 

£14 (£12)

Browse more shows tagged with: