Spiers and Boden

gyda cefnogaeth o Lady Nade

 

Mae Spiers & Boden yn ôl!

 

Gallai pob un ohonom wneud y tro ag ychydig o newyddion da ar hyn o bryd, a dyma fe i chi. Ar ôl blynyddoedd o ddyfalu, mae deuawd fwyaf hoffus canu gwerin Lloegr yn ôl gyda'i gilydd ac yn gweithio ar ddeunydd newydd. Wedi'u disgrifio gan The Guardian fel 'y ddeuawd offerynnol orau ar y sîn traddodiadol', fe wnaeth John Spiers a Jon Boden ffrwydro i’r amlwg yn 2001. 

Yn anochel, roedd Bellowhead yn cymryd mwyfwy o’u hamser ac yn 2014 gwnaeth Spiers & Boden y dewis caled i roi’r gorau i’w deuawd am ychydig. Roedd yn benderfyniad anodd. Roedd Spiers & Boden wedi ennill lle heb ei ail yng nghalonnau'r gynulleidfa werin, ac roedd nifer methu credu fod y ddeuawd yn rhoi’r gorau iddi, na chwaeth bod Bellowhead yna wedi penderfynu rhoi’r ffidil yn y to yn 2016.

 

Fel Spiers & Boden fe wnaethant ennill nifer o Wobrau Gwerin BBC Radio 2 - Gwobr Horizon am y newydd-ddyfodiaid gorau yn 2003, a Gwobr y Ddeuawd Orau yn 2004 a 2006. Roedd cyfnod gydag Eliza Carthy & the Ratcatchers yn cynnwys perfformiad yng Ngwobrau Cerddoriaeth Mercury. Ac ar ôl blynyddoedd o deithio’n llwyddiannus, yn 2011 fe wnaethant arwain eu sioe eu hunain yn Shepherd’s Bush Empire yn Llundain i ddathlu eu degfed pen-blwydd. Yn y cyfamser, roeddent wedi defnyddio eu llwyddiant cynnar fel deuawd i gychwyn y band mawr gwerin arloesol Bellowhead, gyda'r ddeuawd yn ei arwain. Aeth y band ymlaen i werthu pob tocyn yng nghyngherddau yn y Royal Albert Hall, cael llwyddiannau yn Proms In the Park, ennill gwobrau niferus, arwyddo gydag Universal Records a gwerthu dros 250,000 o albymau.

 

Ers hynny, mae Jon Boden wedi llunio gyrfa fel perfformiwr unigol a gyda'i fand ei hun, Jon Boden & The Remnant Kings, wrth barhau i weithio ar ei drioleg greadigol o albymau sy'n archwilio byd ôl-apocalyptaidd a'i waith yn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer theatr. Aeth John Spiers ymlaen i ffurfio cydweithrediadau perfformio llwyddiannus gyda Peter Knight (Steeleye Span, Feast Of Fiddles) ac yna ar wahân gyda Jackie Oates, ac mae'n aelod o Fand Mawr Gigspanner a ffurfiwyd yn ddiweddar. Yna fe wnaeth trafodaethau ddiwedd 2019 grybwyll y syniad o ail-uno Spiers & Boden, recordio newydd, teithio newydd. Erbyn y Nadolig cytunwyd y byddai'r ddeuawd yn ôl yn 2021 a dechreuodd y paratoadau...

 

Lady Nade

Mae gan Lady Nade, cantores Indi-Gwerin-Americana o Fryste, lais tyner, pwerus, melfedaidd, a dawn am greu alawon cofiadwy, gan ddefnyddio naratifau dilys a phwerus. A hithau’n un sy’n frwd am fwyd, bydd yn aml yn tywallt creadigrwydd i bob cân, gan roi rysáit i gyd-fynd â nhw, ac yn llenwi'ch calon â geiriau ac alawon sy'n maethu'r corff a'r enaid.

£18