SYMUD TRWY’R HAF Dathlu 40 mlynedd Cwmni Fflach | Celebrating 40 years of Fflach

 

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

JESS - CRYS - EINIR DAFYDD - CATSGAM

Drysau 6.00pm

 

Dechreuwyd Recordiau Fflach yng Ngorllewin Cymru ym 1981, gan y brodyr Richard a Wyn Jones, oedd hefyd yn aelodau o’r band Cymraeg ton newydd/pync, Ail Symudiad. Mae’r noson yn dathlu 40 mlynedd o Fflach, yn ogystal â thalu teyrnged i’r sylfaenwyr, a gyfrannodd gymaint i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Bydd y noson arbennig hon yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan Jess, Crys, Einir Dafydd a Catsgam.

Band roc trwm o Resolfen yw Crys, a ffurfiwyd ym 1976 gan y brodyr Liam Forde a Scott Forde, ynghyd ag Alun Morgan. Ers eu record sengl gyntaf ym 1980 ar Click Records, aeth Crys ymlaen i ryddhau albymau ar labeli Sain a Fflach ac maen nhw’n dal i rocio mwy na 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Ffurfiwyd Jess ym 1988 gan ffrwydro i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, Gwent. Rhyddhawyd tri albwm a dwy record sengl ganddynt ar label Fflach ac aethant ymlaen i ennill gwobrau niferus a theithio’n helaeth ledled Ewrop. Mae eu steil yn gymysgedd o roc trwm a phop melodig gyda llawer o alawon lleisiol.

Band o Dde Ddwyrain Cymru yw Catsgam, a ffurfiwyd ym 1997, gyda steil arbennig eu hunain o roc melodig gitâr wedi’i ffurfio o gwmpas cyfansoddi caneuon pwerus Rhys Harries a llais adnabyddedig Catrin Brooks. Recordiwyd pedwar albwm o ddeunydd gwreiddiol ar label “Fflach” gan arwain at ryddhau “Sgam” – y casgliad pen-blwydd yn 21 oed, ym mis Hydref 2018. 

Yn ogystal, bydd Einir Dafydd, enillydd Wawffactor a Chân i Gymru yn perfformio fel rhan o’r noson arbennig hon yng Nghastell Aberteifi.

  • GWYBODAETH HANFODOL 

  • Ni roddir ad-daliadau ar docynnau ar gyfer digwyddiadau a hyrwyddir ar y cyd gan Gastell Aberteifi | Theatr Mwldan yw'r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
  • Bydd rhagor o wybodaeth hanfodol yn cael ei rhoi i chi bythefnos cyn y digwyddiad drwy e-bost.
  • Mae hwn yn ddigwyddiad lle byddwch yn sefyll ar eich traed, er bod croeso i chi ddod â'ch cadair wersylla â chefn isel eich hun (rhaid gosod hon yn y parth dynodedig i ffwrdd o'r brif ardal ddawnsio).
  • Siaradwch â'n swyddfa docynnau os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd a gwnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer hynny. Neilltuir man eistedd ar gyfer cadeiriau olwyn a'r rheiny sydd ag anawsterau symudedd. Os hoffech ddefnyddio'r cyfleuster hwn, rhowch wybod i ni wrth i chi archebu tocynnau gan ddefnyddio'r blwch sylwadau ar-lein, neu drwy ein swyddfa docynnau os ydych yn archebu dros y ffôn.
  • Argymhellir archebu tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Ni allwn sicrhau y bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
  • Yn y digwyddiad hwn, ni chaniateir bwyd a diod ar y safle sydd wedi ei brynu y tu allan i'r Castell.  Mae croeso i chi ddod â photel ddŵr wag gyda chi i'r safle, y gallwch ei hail-lenwi ym Mar y Pafiliwn.

 

Browse more shows tagged with: