Tra Bo Dau + Ar Ôl Tri - Gŵyl Fawr Aberteifi: Cyngerdd Cloi’r Ŵyl/ Closing Concert

Diweddglo’r Ŵyl yw’r Cyngerdd Mawreddog yng Nghastell Aberteifi a fydd yn cynnwys:

Tra Bo Dau

Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies – dau lais arbennig ac unigryw, ac eto dau lais sy’n cydblethu’n berffaith â’i gilydd. Mae nhw’n denoriaid direidus sy’n rhannu synnwyr digrifwch yn ogystal â chariad mawr at gerddoriaeth. Mae’r ddau yn enwau cyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymru a’r byd yn sgil eu gyrfaoedd unigol fel unawdwyr ac fel dau aelod o Tri Tenor Cymru.

Ar Ôl Tri

Arweinydd: Emyr Davies

Cyfeilydd: Meinir Jones-Parry.

Dechreuodd Ar Ôl Tri ddeg mlynedd ar hugain yn ôl fel grwˆp bach o ddeg, gan ganu caneuon digyfeiliant o wahanol arddulliau. Erbyn hyn yn griw o 30 aelod, maent yn cystadlu’n rheolaidd mewn eisteddfodau cenedlaethol, yn ogystal â pherfformio mewn nifer o gyngherddau elusennol.

£15 (£7.50 o dan 16)

Browse more shows tagged with: