Wyneb Newidiol Stryd Fawr Aberteifi | The Changing Face of Cardigan High Street

Dyma i chi gyfle i weld prif stryd gyfarwydd Aberteifi mewn golau tra gwahanol, wrth i Glen Johnson, hanesydd lleol, rannu casgliad o ffotograffau yn dangos sut mae’r siopau a’r adeiladau cyfarwydd wedi newid dros y blynyddoedd. Dysgwch am hen adeilad Brawdlys Aberteifi, y tân gwaethaf erioed yn Aberteifi, cysylltiadau simsan Aberteifi â’r Beatles, a llawer mwy! Nid yw llawer o'r delweddau erioed wedi'u gweld yn gyhoeddus o'r blaen, a bydd sylwebaeth wybodus a ffraeth Glen yn cyd-fynd â nhw. Unwaith y byddwch wedi gweld y lluniau hyn, fyddwch chi byth yn edrych ar Stryd Fawr Aberteifi yn union yr un ffordd eto!

£7

Browse more shows tagged with: