The Brand New Testament (15)

CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN FILM SOCIETY 

Jaco Van Dormael | Belgium, France, Luxembourg | 2015 | 112’ 

Mae Duw’n bodoli! Mae’n byw ym Mrussels gyda’i wraig a’i ferch, Ea. Mae’n ormesol ac yn treulio rhan fwyaf o’i amser mewn swyddfa enfawr lle mae’n rheoli’r byd trwy hen gyfrifiadur. Pan mae Ea’n syrffedu ar ei thad ac yn penderfynu gadael y nyth, a dod o hyd i’w hapostolion a’i thestament newydd sbon ei hun, mae Duw yn grac, yn ddinerth ac yn benderfynol o adennill ei awdurdod.

IS-TEITLAU

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!  

£7.10 (£5.40)