Gholam (15)

Mitra Tabrizian | 2017 | UK | Iran | 95’

Wedi ei gosod yng nghymuned Iranaidd Llundain yn ystod gwanwyn Arabaidd 2011, mae Gholam (Shahab Hosseini, The Salesman) yn ffigwr digalon sydd wedi ei ddal rhwng hen deyrngarwch ac ymrwymiadau’r presennol. Yn yrrwr minicab gyda’r hwyr, yn beiriannydd yn ystod y dydd, mae’n gwrthsefyll ceisiadau i’w ddychwelyd i Tehran (lle mae ei fam yn aros, yn hiraethu amdano) ar genhadaeth aneglur, ond mae’n cael ei effeithio gan sefyllfa fenyw o Drinidad sy’n cael ei brawychu gan fois ifanc gwyn.

£7.50

CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN