LICORICE PIZZA (15)

LICORICE PIZZA (15)

Paul Thomas Anderson | Canada | United States | 2021 | 134’

Stori dod i oed hiraethus gorfoleddus gan Paul Thomas Anderson lle mae Alana Kane a Gary Valentine yn rhedeg o gwmpas ac yn syrthio mewn cariad yn Nyffryn San Fernando yn y 70au cynnar. Stori serch anghonfensiynol sy’n llwyddo i fod yn felys, yn ddoniol, yn absẃrd - ac yn gwbl gredadwy, diolch i’r prif berfformiadau (gan gynnwys mab y diweddar Philip Seymour Hoffman fel Gary).

£7.70 (£5.90)

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffôn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**

O dan yr amgylchiadau presennol, ar hyn o bryd nid yw seddi ar gyfer dangosiadau sinema yn cael eu dyrannu wrth i chi archebu tocynnau. Bydd seddi’n cael eu dyrannu i chi gan aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd y Mwldan.

Os oes gennych unrhyw geisiadau am seddi (e.e. cais o ran symudedd, neu gais i eistedd wrth ymyl person arall), rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r blwch sylwadau sydd i'w weld ar waelod adran 'Eich Manylion' yn y broses archebu tocynnau.