Notes On Blindness (U)

CYMDEITHAS FFILM THEATR MWLDAN FILM SOCIETY

Pete Middleton, James Spinney, UK, 2016, 90’

Ym 1983, ar ôl degawdau o ddirywiad graddol, mae’r ysgrifennwr a’r diwinydd John Hull yn mynd yn hollol ddall. I’w helpu i wneud synnwyr o’i dro ar fyd, mae’n dechrau dogfennu ei brofiadau ar gasét sain. Mae actorion yn lleisio i gyd-fynd â gwefusau’r teulu, gan ymgorffori recordiadau gwreiddiol John o fewn sinematograffi cymhellol a dyluniad sain celfydd. Mae’r canlyniad yn stori farddonol a phersonol am golled, genedigaeth a thrawsffurfiad, yn cofnodi siwrnai ryfeddol John i ‘fyd y tu hwnt i olwg’.

Mae dangosiadau y Gymdeithas Ffilm am ddim i Aelodau y Gymdeithas Ffilm!

Bydd aelodau ac aelodau cysylltiol hefyd yn derbyn disgownt sylweddol oddi ar brisiau dangosiadau arferol (heb fod yn ddangosiadau CFfThM) yn y Mwldan. e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk neu cliciwch yma i weld sut gallwch fwynhau mwy o ffilmiau am lai o arian!  

£7.10 (£5.40)