Catrin Finch & Seckou Keita

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan 

Gyda Cefnogaeth oddi wrth Gwyneth Glyn 

 

Mae’n bleser gan Catrin Finch y delynores Gymreig a Seckou Keita, y chwaraewr kora o Senegal, gyhoeddi rhyddhau eu hail albwm, y bu aros mawr amdano, sef SOAR ar 27ain o Ebrill 2018 ar label bendigedig. Yn dilyn hyn bydd taith DU ym mis Ebrill a Mai y flwyddyn nesaf, gyda dyddiadau pellach yn yr hydref i’w cyhoeddi’n fuan.

Mae’r albwm yn troi o gwmpas adenydd y gwalch, yr aderyn ysglyfaethus godidog a ddychwelwyd i Gymru’n ddiweddar yn dilyn absenoldeb o ganrifoedd, sy’n gwneud ei daith flynyddol o 3,000 milltir o arfordiroedd Gorllewin Affrica i aberoedd Cymru, gan hedfan fel cerddoriaeth a breuddwydion dros ffiniau o waith Dyn, ar siwrnai o ddycnwch cynhenid ac epig.

Gan dynnu’n ddwfn ar eu traddodiadau amrywiol eu hunain a’u trawsffurfio gyda synergedd hynod, mae Catrin a Seckou wedi adeiladu enw da heb ei ail am eu perfformiadau rhyfeddol dros y pedair blynedd ddiwethaf. Yn gyfareddol, yn fesmereiddiol, yn gywrain ac yn etheraidd, mae’r cydweithrediad aruthrol hwn, sy’n fawr ei glod gan y beirniaid, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri, rhwng dau berfformiwr penigamp yn darparu arddangosfa syfrdanol o gerddoriaeth o’r radd flaenaf a phrofiad byw gwefreiddiol.

Bydd y daith yn ymweld â Machynlleth, Bangor, Milton Keynes, Caerfaddon, Caerdydd, Aberteifi, Llundain, Truro, Birmingham, Sheffield, Abertawe, Derby a Swaledale, gyda’r  gantores-gyfansoddwraig Gwyneth Glyn yn cefnogi ar ddyddiadau penodol.

Caiff y dyddiad ryddhau ei farcio gan berfformiad arbennig ar gyfer cynulleidfa o 45 person yn yr Arsyllfa yng Nghanolfan Gweilch Dyfi ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru, sy’n edrych dros blatfform nythu’r gweilch. Caiff yr holl elw a godir ei roi i Ganolfan Gweilch Dyfi i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn. Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn yn £50 y pen gan gynnwys lluniaeth a chopi o’r albwm newydd wedi ei lofnodi. 

Cyfeiriwch at wefannau canolfannau unigol am docynnau a dyddiadau gwerthu, neu ewch at catrinfinchandseckoukeita.com am fanylion. Caiff y daith hon ei chynhyrchu gan Theatr Mwldan mwldan.co.uk, a chaiff SOAR ei ryddhau ar bendigedig bendigedig.org

 

DYDDIADAU’R DAITH EBRILL / MAI 2018

 

Ebrill 26         Y Tabernacl, Machynlleth, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

                      tocynnau drwy mwldan.co.uk

 

Ebrill 27         Yr Arsyllfa, Canolfan Gweilch Dyfi, Machynlleth

                      Perfformiad codi arian – tocynnau drwy mwldan.co.uk

 

Ebrill 29         Hall For Cornwall, Truro    

                      hallforcornwall.co.uk

 

Mai 2             Theatr Mwldan, Aberteifi, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

                      mwldan.co.uk

 

Mai 3              Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

                      stdavidshallcardiff.co.uk

 

Mai 4             The Stables, Milton Keynes   

                      stables.org

 

Mai 12            Union Chapel, Llundain, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn tocynnau ar werth o serious.org.uk

 

Mai 15            Crucible Studio Theatre, Sheffield

                      musicintheround.co.uk

 

Mai 17            Pontio, Bangor, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

                       pontio.co.uk

           

Mai 18            Canolfan y Celfyddydau Taliesin Arts Centre, Abertawe, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn               

                       taliesinartscentre.co.uk

 

Mai 22            Gŵyl Caerfaddon, Caerfaddon

                      Tocynnau ar werth o 13 Rhagfyr drwy Bathfestivals.org.uk

 

Mai 25            The Guildhall, Derby, gyda chefnogaeth gan Gwyneth Glyn

                      derbylive.co.uk

 

Mai 28            Swaledale, Grinton

                      Tocynnau ar werth 5 Mawrth i danysgrifwyr cynllun ‘Cyfeillion’, ac ar werth i’r cyhoedd o 26 Mawrth drwy www.swalefest.org

 

Gorffennaf

15           Folk By The Oak, Hatfield House, Herts  

 

Hydref

20           Manchester Folk Festival gyda cefnogaeth oddi wrth Rachael McShane and the Cartographers

 

Tachwedd

14           Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre

15           St George's, Bristol, gyda cefnogaeth oddi wrth Gwyneth Glyn  

16           Pontardawe Arts Centre,  gyda cefnogaeth oddi wrth Gwyneth Glyn

17           Metronome, Nottingham

18           Metronome, Nottingham

22           Theatre Brycheiniog, Brecon      

23           Galeri, Caernarfon gyda cefnogaeth oddi wrth Gwyneth Glyn

24           Howard Assembly Room, Leeds

25           Liverpool Philharmonic Music Rooms, Liverpool, gyda cefnogaeth oddi wrth Gwyneth Glyn

28           Apex, Bury St Edmunds 

29           St Paul's, Worthing         

Rhagfyr

01           Cecil Sharp House, London

 

 

 

 

 

 

 

 

gorgeous, eloquent, elegant music
Thomas Brooman CBE

Browse more shows tagged with: