CATRIN FINCH & SECKOU KEITA

CYNHYRCHIAD GAN Y MWLDAN

CATRIN FINCH A SECKOU KEITA (Cymru / Senegal)

 

Cerddoriaeth i'r enaid gan y deuawd aruchel hwn

Mae gan y delyn le hanfodol yn niwylliannau anhygoel gyfoethog Gorllewin Affrica a Chymru, ac mae'r ddwy wlad yn rhannu traddodiad barddol sy’n ymestyn yn ôl ar hyd canrifoedd lawer o hanes llafar cywrain, wedi'i fynegi trwy gerddoriaeth, cân a phennill.

Yn dilyn cydweithrediad ar hap yn 2012, mae’r delynores Gymreig Catrin Finch, a Seckou Keita y pencampwr ar y Kora o Senegal, wedi bod yn creu cerddoriaeth sydd nid yn unig yn hyrwyddo’r offerynnau coeth hyn, ond sy’n asio elfennau o gerddoriaeth newydd a hen o draddodiadau canu Clasurol Gorllewinol, Celtaidd a Senegal; gan ddatgelu edau gyffredin drawiadol rhwng gwahanol ddiwylliannau ac oesau.

Ysbrydolwch a deffrowch yr ysbryd gyda cherddoriaeth anghyffredin gan y deuawd hwn sydd wedi ennill llu o wobrau, enillwyr y Grŵp/Deuawd Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2019.

 

AR DAITH 2021

 

04 Mehefin - The Met, BURY (WEDI GWERTHU ALLAN)

05 Mehefin - St George's Bristol, BRISTOL (WEDI GWERTHU ALLAN)

11 Mehefin- Swaledale Festival, REETH

22 Mehefin - Gulbenkian, CANTERBURY

03 Gorffennaf - Beyond The Border, LLANDEILO

28 Gorffennaf - Petworth Festival, LURGASHALL

31 Gorffennaf - Underneath The Stars Festival, BARNSLEY

11 Awst- Broadstairs Folk Week, BROADSTAIRS

12 Awst - Winchfield Festival, WINCHFIELD

20 Awst - Beautiful Days Festival, EXETER (WEDI GWERTHU ALLAN)

22 Awst - Folk East Festival, LITTLE GLEMHAM

27 Hydref - Acapela Studios, CARDIFF

11 Tachwedd - Cecil Sharp House, LONDON

 

2022

06 Mai - Galeri, CAERNARFON

14 Mai - Anvil Arts, BASINGSTOKE

21 Mai - Pocklington Arts Centre, EAST YORKSHIRE

27 Mai - Huntingdon Hall, WORCESTER

28 Mai - Y Tabernacl, MACHYNLLETH

29 Mai - Theatr Mwldan, CARDIGAN

01 Mehefin- St David's Hall, CARDIFF

07 Mehefin - The Apex, BURY ST EDMUNDS

08 Mehefin - Union Chapel, LONDON

10 Mehefin - The Queen's Hall, EDINBURGH

Hypnotic and ethereal, SOAR is a unique marriage of cultures
THE OBSERVER
They are now one of the most popular world music acts of this decade
SONGLINES MAGAZINE
SOAR is about as near to perfection as is possible
RNR MAGAZINE

Browse more shows tagged with: