CATRIN FINCH & TOUMANI DIABATÉ (Cymru / Mali)

CYD-GYNHYRCHIAD THEATR MWLDAN | ASTAR ARTES

AR DAITH 26 - 31 MAWRTH 2012

 

O gynhyrchwyr y prosiectau mawr diweddar Billy Cobham & Asere a Catrin Finch & Cimarron, daw cydweithrediad cerddorol disglair arall sy’n cynnwys dau o feistri’r byd. Mae Catrin a Toumani yn hanu o ddau ddiwylliant gwahanol iawn: Mali, gwlad dirgaeedig yn Ne Sahara sy’n un o’r mwyaf tlawd yn y byd ond sy’n cynhyrchu peth o’r gerddoriaeth fwyaf cain ar y blaned; mewn cyferbyniad, mae cymoedd gwyrdd, ffrwythlon a mynyddoedd uchel Cymru, yn gyfarwydd i ni gyd. Mae gan y delyn safle canolog yn niwylliant hynod gyfoethog y ddwy wlad. Mae telyn Gorllewin Affrica - y kora - y mae Toumani yn ei chwarae, wedi ei chreu o gowrd sych a llinyn bysgota; mae’r Delyn Gymreig, y mae Catrin yn ei chwarae, yn un o’r symbolau mwyaf eiconig gwlad â chanddi gerddoriaeth yn ei chalon.

Mae Toumani Diabaté yn un o gerddorion pwysicaf Affrica ac fe’i hystyrir yn gyffredinol fel y chwaraewr kora gorau sy’n bodoli. Yn berfformiwr o feistrolaeth a chreadigedd arbennig, mae ei dras yn mynd yn ôl trwy 71 cenhedlaeth o chwaraewyr kora, o dad i fab. Mae wedi cydweithio gyda Damon Albarn, Taj Mahal, Bjork a’r diweddar enwog Ali Farka Touré, a enillodd Gwobr GRAMMY gydag ef am yr Albwm Cerddoriaeth Draddodiadol Byd Gorau yn 2006. Mae Catrin Finch yn un o gynrychiolwyr rhyngwladol cerddoriaeth Cymru. Roedd Catrin, “Brenhines y Telynau” yn Delynores Frenhinol i’w Fawrhydi’r Tywysog Siarl o 2000-2004. Mae ei hymddangosiadau cyngerdd gyda phrif gerddorfeydd y byd yn rhychwantu’r byd ac mae wedi gweithio gydag artistiaid sy’n cynnwys Bryn Terfel, Sir James Galway a Julian Lloyd-Webber. Mae cydweithrediad hynod lwyddiannus diweddar Catrin gyda’r band telynau o Golombia, sef Cimarron, wedi teithio tair gwaith o gwmpas Cymru.

Catrin a Toumani, telyn a kora, Cymru a Mali – profiad arbennig ac unigryw.

 

 

Ar Daith I:

 

Thear Mwldan, CARDIGAN / ABERTEIFI

Theatr Brycheiniog, BRECON 

Royal Welsh College of Music & Drama, CARDIFF

William Aston Hall, Glwydwr University WREXHAM 

Taliesin Arts Centre, SWANSEA

 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol

Browse more shows tagged with: