It's Dark Outside

house a Theatr Mwldan yn gylfwyno'r cynhyrchiad Perth Theatre Company: It's Dark Outside 

 

Ar Daith Mawrth - Ebrill 2014

 

Mae’r tîm oedd yn gyfrifol am The Adventures of Alvin Sputnik: Deep Sea Explorer, a lwyddodd i ennill nifer o wobrau, yn ôl gydag antur hudolus a theimladwy arall. Gan ddefnyddio pypedwaith, masgiau, animeiddio a pherfformiadau byw, mae It’s Dark Outside yn ddarn hardd ac emosiynol am dyfu’n hen, a siwrnai un dyn trwy atgofion ei fywyd - profiad atgofus, mesmereiddiol a chwerwfelys.


Wrth i’r haul fachlud, mae hen ddyn a’i babell yn mynd i grwydro trwy’r anialwch. Mae’r tirlun yn troi’n wildwest ei ddychymyg - mae ei babell yn troi’n geffyl, cwmwl yw ei gi. Wedi ei feddiannu gan fyd swrrealaidd, mae’n rhedeg i ffwrdd o draciwr dirgel sydd wedi darganfod ei arogl ac sy’n benderfynol o’i hela. Er y gall geisio rhedeg i ffwrdd o’r bywyd oedd ganddo, ni all guddio rhag popeth.
 

Yn syth o sioeau a werthasant bob tocyn yng Ngŵyl Sydney, mae It’s Dark Outside yn:

 

“...moving and uplifting.”  The Australian 
 
“A rare triumph of theatrical ingenuity and human compassion”  The West Australian 
 
***** “Beautiful and captivating”  ArtsHub
 
WINNER Artshub Critic’s Choice Award 
 
 
 

Ar Daith I:

 

 

March / Mawrth 2014

6  Wales Millennium Centre, Weston Studio CARDIFF

 

April / Ebrill 2014

9  Y Ffwrnes, LLANELLI

10  Torch Theatre, MILFORD HAVEN

11  Mwldan, CARDIGAN

 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol.

 

 

Browse more shows tagged with: