SALSA!

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Na N’og | Theatr Mwldan 

 

Ar Daith: 2 Awst – 4 Tachwedd 2011

 

Gyda’i ben yn y sêr, mae bywyd Wayne Needy braidd yn ddifflach ac, er mwyn rhoi taw ar swnian ei wraig Rhian, mae’n dechrau gwersi dawns. Wedi’r cyfan, bydd yn gyfle iddo golli pwysau hefyd. Mae Wayne a’i ddwy droed chwith yn camu’n betrusgar i fyd y Tango a’r Salsa, ac mae’n dechrau meddwl y byddai’n well ganddo fod ar blaned arall – hynny yw tan iddo gyfarfod â’r brydferth Adela Vega, ei hyfforddwraig dawns. Wrth i’r neuadd gymunedol llwm drawsnewid, mae Wayne yn ymgolli yn rhythmau egsotig ei fyd newydd. Ac wrth i’w gariad at ddawns dyfu, mae’n dechrau cwestiynu ei wir deimladau tuag at Rhian. Mae’n rhaid iddo wneud penderfyniad; ond ai calon ynteu traed Wayne fydd yn penderfynu? Perfformiad yn Gymraeg, yn addas i ddysgwyr ac i oedran 14 +. 

 

Ar Daith i:

THEATR STIWT, Rhosllannerchrugog

THEATR MWLDAN, Aberteifi

CANOLFAN MILENIWM CYMRU, Caerdydd

THEATR HAFREN, Y Drenewydd

CANOLFAN Y CELFYDDYDAU, Aberystwyth

NEUADD DWYFOR, Pwllheli

GALERI, Caernarfon

Y MUNI, Pontypridd

TALIESIN, Abertawe

Y LYRIC, Caerfyrddin

THEATR FELINFACH, Dyffryn Aeron

Y NEUADD LES, Ystradgynlais

PAFILIWN Y GRAND, Porthcawl

 

Browse more shows tagged with: