GIRL FROM THE NORTH COUNTRY (15)
A hithau wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y dramodydd enwog Conor McPherson ac yn cynnwys offeryniaeth gan Simon Hale sydd wedi ennill Gwobr Tony, mae Girl From The North Country yn ailwampio 20 o ganeuon mawr Bob Dylan mewn modd hollol newydd, gan gynnwys “Forever Young,” “All Along The Watchtower,” “Hurricane,” a “Like A Rolling Stone.”
Mae'n 1934 yn Duluth, Minnesota. Rydyn ni’n cwrdd â grŵp o deithwyr y mae eu bywydau’n croestorri mewn gwesty llawn cerddoriaeth, bywyd a gobaith. Profwch y cynhyrchiad Broadway “profoundly beautiful” hwn (The New York Times) a fydd yn dod yn fyw dan ofal cwmni rhyfeddol o actorion a cherddorion.
Mae hwn yn recordiad o berfformiad byw.
£16 (£15)