IGNACIO LOPEZ: JUAN SOLO

Ymunwch â Ignacio Lopez (hefyd yn hysbys fel Juan Solo)o enwogrwydd Live At The Apollo ar daith feiddgar drwy’r alaeth, yn ei long ofod rhydlyd, y Millennial Falcon!

Mae Juan wedi cael y dasg o recriwtio a chludo 100 o fodau dynol i gyrchfan ddiweddaraf Y GALACTIC HOLIDAY EMPIRE er mwyn iddyn nhw gael rhoi cynnig arni! Mae'r ymerodraeth wedi bod yn glir iawn, NI CHANIATEIR UNRHYW BLANT. Bydd unrhyw blant sy’n cael eu darganfod ar y llong yn cael eu troi’n anwedd, ac yn waeth na dim, ni chaiff Juan ei dalu!

Bydd pob teithiwr yn derbyn hyfforddiant llawn, sesiwn friffio diogelwch, adloniant gan ein digrifwyr preswyl, a mwy na thebyg na chânt eu troi’n anwedd. Ewch i ôl eich mwstashis ffug, a pharatowch eich esgusodion, oherwydd rydyn ni'n mynd i'r gofod! Ond peidiwch â chynhyrfu, bydd Juan yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi; MAE BOD YN OEDOLYN YN HAWDD!

Disgwyliwch sarcasm, comedi stand-yp, a ffolineb, yn y sioe antur wyllt, ryngweithiol hon.

£12 Oedolion / £8 Plentyn

Ar gyfer oedran 5+

60 munud