Catrin Finch and Aoife Ní Bhriain 2025

  

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

 

Cydweithrediad syfrdanol rhwng dau dalent cerddorol aruthrol.

Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon ac yn feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig. Ar draws Môr Iwerddon, ar arfordir gorllewinol Cymru, mae’r delynores Catrin Finch hefyd wedi llunio gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig.

Mae Finch a Ní Bhriain yn creu deialog gerddorol swynol lle mae elfennau traddodiadol a chyfoes yn dod at ei gilydd mewn dathliad syfrdanol o gydweithrediad cerddorol, gan dywys gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliannau eu dwy wlad enedigol.

Mae eu halbwm debut Double You wedi cyrraedd #1 yn Siartiau Clasurol iTunes a Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop, #2 yn Siartiau Cerddoriaeth Byd Transglobal, a derbyniodd enwebiadau ar gyfer yr ‘Albwm Gorau’ yn 6ed Gwobrau Gwerin Radio 1 RTÉ, ac ‘Albwm Gorau Ewrop’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Songlines 2024.

 

AR DAITH 2025:

 

IONAWR

23   Borough, Abergavenny

24   Y Muni, Pontypridd

29   Celtic Connections, Glasgow

 

CHWEFROR

28   RWCMD, Cardiff

 

MAWRTH

1     Liverpool Philharmonic Music Rooms 

 

EBRILL

10   Taliesin, Swansea

12   David Hall, South Petherton

 

MAI

4     Bristol Folk Festival

8     Cecil Sharp House, London

9     St Giles Church, Focus Wales 2025, Wrexham

11   The Live Room, Saltaire

15   Glór, Ennis

16   Belltable, Limerick

17   Roscommon Arts Centre

 

HYDREF

11   Lampeter Music Club, Arts Hall, Lampeter University

 

 

 

Browse more shows tagged with: