KROKE (2025)

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Ar ôl absenoldeb o 16 mlynedd, dychwelodd Kroke, y triawd o Wlad Pwyl i’r DU yn 2023 i roi profiad cerddorol byw rhyfeddol i gynulleidfaoedd hen a newydd a arweiniodd at y gynulleidfa’n codi ar ei thraed mewn cymeradwyaeth ar sawl achlysur, gan wneud hynny mor gynnar â’r egwyl. Gan gyflwyno cymysgedd godidog o gerddoriaeth fodern Bwylaidd, klezmer, jazz cyfoes a cherddoriaeth glasurol siambr, mae celfyddyd Kroke yn herio genres. At hynny, mae’n dal i fod ar ei hanterth ar ôl gyrfa syfrdanol dros 30 mlynedd sydd wedi denu sylw gan artistiaid enwog a chynulleidfaoedd ledled y byd, ac wedi arwain at gydweithio gyda rhai fel Nigel Kennedy, Steven Spielberg a Peter Gabriel. Wedi'i ffurfio ym 1992 gan dri o raddedigion yr Academi Gerddoriaeth yn Krakow, mae Kroke (Iddeweg am Kraków) yn dychwelyd i'r DU yn 2025 i roi perfformiad o’r 'goreuon' o'u traciau mwyaf poblogaidd. Disgwyliwch ddylanwadau o fydoedd jazz, cerddoriaeth gyfoes ac ethnig wedi’u trwytho â’u gwaith byrfyfyr syfrdanol eu hunain, y cyfan wedi’i lapio mewn arddull unigryw’r triawd sy’n cyflwyno gwledd gerddorol fythgofiadwy.

£20 (£18)

Kroke live are a hair-raisingly brilliant, unforgettable experience.
JON LUSK, BBC RADIO 3
What drags me into Kroke’s music so successfully is this spiritual reality they have… it’s honesty and sincerity in their music.
NIGEL KENNEDY
Kroke, a klezmer band from Poland are gems. ….. they move beyond the rumbustious towards an epic sound that’s sometimes histrionic but also deeply moving. To boot, they are the coolest-looking act in town
WOMAD ON KROKE

Browse more shows tagged with: