A Night With Janis Joplin: The Musical (12A TBC)

Mae’r sioe wobrwyedig hon a ddyfeisiwyd yn ddiweddar yn Theatr Peacock Sadler’s Wells yn daith gerddorol ryfeddol sy’n talu teyrnged i Janis Joplin a’i dylanwadau cerddorol mwyaf. Fel comed sy’n llosgi’n llawer rhy llachar i bara, ffrwydrodd Janis Joplin i’r sîn gerddoriaeth ym 1967 a, bron dros nos, daeth yn frenhines roc a rôl. Roedd y llais unigryw, yn llawn emosiwn amrwd ag arno arlliw o Southern Comfort, gan ei gwneud hi'n seren fawr roedd yn rhaid ei gweld o Monterey i Woodstock. Gyda chaneuon sydd mor fythgofiadwy â “Me and Bobby McGee,” “Piece of My Heart”, “Mercedes Benz”, “Cry Baby” a “Summertime”, mae gan y sioe gast rhyfeddol a pherfformiadau gwych. Mae A Night with Janis Joplin, a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Randy Johnson, yn daith gerddorol sy’n dathlu Janis a’i dylanwadau cerddorol mwyaf - eiconau fel Aretha Franklin, Etta James, Odetta, Nina Simone a Bessie Smith, a ysbrydolodd un o fawrion roc a rôl.

Mae hwn yn recordiad o berfformiad byw.

£16 (£15)

140 munud (gyda egwyl)