HARD TRUTHS (12A)
Mike Leigh | UK | Spain | 2025 | 97’
Mae’r gwneuthurwr ffilmiau enwog Mike Leigh yn dychwelyd i’r byd cyfoes gydag astudiaeth ffyrnig, dosturiol, sy’n aml yn dywyll o ddigrif am deulu a’r clymau dyrys sy’n ein cysylltu.
Mae’r ryfeddol Marianne Jean-Baptiste (yn aduno yma â Leigh am y tro cyntaf ers Secrets and Lies a gafodd ei henwebu am sawl Oscar) yn chwarae rhan Pansy, menyw llawn pryder, wedi’i phoenydio gan ofidion, ac sy’n dueddol o ymosod ar lafar ar unrhyw un sy’n edrych tuag ati. Mae’r ffilm eang hon gan brif ddramodydd yn ein tywys i ddwyster carennydd, dyletswydd, loes a chaledi, a’r ffyrdd rydyn ni’n dod o hyd iddynt er mwyn caru’r rheiny a elwir gennym yn deulu.
£8.40 (£7.70) (£5.90)