THE PENGUIN LESSONS (12A)
Peter Cattaneo | Spain | USA | 2025 | 112’
Steve Coogan yw seren y stori wir hon am ffraethineb, cynhesrwydd, drama a direidi ciwt pengwiniaid. Buenos Aires, 1976, ac mae Tom Michell yn cyrraedd i addysgu Saesneg mewn ysgol breifat yn union fel mae Isabel Perón yn cael ei diarddel mewn chwyldro milwrol. Pan gaiff Tom ei berswadio i achub pengwin Magellan wedi’i orchuddio ag olew o draeth, mae perthynas annisgwyl a chyfareddol yn datblygu rhwng dyn ac aderyn sy’n arwain at ddeffroad personol a gwleidyddol sy’n trawsnewid bywyd Tom. Ffilm deimladwy, ysbrydoledig a chalonogol ac mae amseru comig perffaith Coogan yn bleser.
£8.40 (£7.70) (£5.90)