Royal Ballet & Opera: La Fille Mal Gardée (12A AS LIVE)

Mae Lise, unig ferch y Weddw Simone, mewn cariad â'r ffermwr ifanc Colas, ond mae gan ei mam gynlluniau llawer mwy uchelgeisiol ar ei chyfer. Mae Simone yn gobeithio trefnu priodas iddi ag Alain, mab y perchennog cyfoethog Thomas. Gan fod Lise yn awyddus i briodi Colas yn hytrach nag Alain, mae hi'n cynllwynio ffordd i drechu cynlluniau ei mam. 65 mlynedd ar ôl ei berfformiad cyntaf, mae'r Royal Ballet yn cyflwyno La Fille mal gardée gan Frederick Ashton. Mae'r portread annwyl hwn o fywyd pentrefol yn cyfuno hiwmor afieithus a choreograffi dyfeisgar gwych yn yr hyn sydd heb os yn llythyr serch gan Ashton at gefn gwlad Lloegr. Mae La Fille mal gardée yn ein cludo i hapusrwydd gwledig gyda sgôr llawen Ferdinand Hérold a dyluniadau lliwgar Osbert Lancaster.

Bydd y sioe ar 5 Tachwedd yn cael ei ffrydio’n fyw.

Mae’r sioe ddilynol ar y 9 Tcahwedd yn recordiad.

£18 (£17)