Royal Ballet & Opera: Cinderella (PG As Live)
Yn gaeth i’r cartref ac wedi'i gorfodi i weithio gan ei Llyschwiorydd ofnadwy, mae bywyd Cinderella yn undonog ac yn ddiflas. Mae popeth yn newid pan mae hi'n helpu menyw ddirgel... Gydag ychydig bach o hud, caiff ei chludo i fyd newydd arallfydol – byd lle mae tylwyth teg yn dod â rhoddion y tymhorau, lle mae pwmpenni'n troi'n gerbydau, a lle mae gwir gariad yn aros amdani.
Mae'r bale hudolus hwn gan Goreograffydd Sefydlol y Royal Ballet, Frederick Ashton, yn brofiad theatrig i'r teulu cyfan, a bydd yn eich cludo i fyd arallfydol lle mae ysgeintiad o lwch tylwyth teg yn gwireddu breuddwyd.
Bydd y sioe ar 25 Tachwedd yn cael ei ffrydio’n fyw.
Mae’r sioe ddilynol ar y 30 Tachwedd yn recordiad.
£18 (£17)