Royal Ballet & Opera: The Nutcracker (PG As Live)
Mae angen i'r dewin Herr Drosselmeyer achub ei nai. Mae Hans-Peter wedi cael ei droi’ n Nutcracker; yr unig ffordd i'w achub yw i'r Nutcracker drechu’r Mouse King a dod o hyd i ferch i'w garu ac i ofalu amdano. Daw fflach o obaith pan mae Drosselmeyer yn cwrdd â Clara ifanc mewn parti Nadolig. Gyda rhywfaint o hud, mae parti Nadoligaidd clyd yn troi'n antur ryfeddol.
Mae The Nutcracker gan Peter Wright wedi swyno cynulleidfaoedd ers ei berfformiad cyntaf gan y Cwmni ym 1984. Yn cynnwys alawon mwyaf cyfarwydd Tchaikovsky ac wedi'i fywiogi gan ddyluniadau coeth Julia Trevelyan Oman, mae The Nutcracker yn sicr o fod yn ffefryn Nadoligaidd i bob oed.
Bydd y sioe ar 10 Rhagfyr yn cael ei ffrydio’n fyw.
Mae’r sioe ddilynol ar y 14 Rhagfyr yn recordiad.
£18 (£17)