Royal Ballet & Opera: La Traviata (12A As Live)
Yn un o'i phartïon moethus, caiff y butain llys enwog o Baris, Violetta, ei chyflwyno i Alfredo Germont. Mae'r ddau yn syrthio dros eu pen a’u clustiau mewn cariad, ac er ei bod yn betrusgar ynglŷn â gadael ei bywyd moethus a’i rhyddid ar ôl, mae Violetta yn dilyn ei chalon. Ond mae hapusrwydd y pâr ifanc yn fyrhoedlog, wrth i realiti llym bywyd ddod i'w rhan yn fuan.
Mae La traviata, sydd yr un mor agos atoch ag y mae'n foethus, yn cynnwys rhai o alawon enwocaf opera, ac mae'n arddangosiad arbennig o dalent y soprano arweiniol Ermonela Jaho. Ym myd o fawredd hudolus y cyfarwyddwr Richard Eyre, mae'r harddwch tyner a dinistriol yng nghanol opera Verdi yn disgleirio'n llachar.
£18 (£17)