Royal Ballet & Opera: Siegfried (PG As Live)

Wedi'i fagu gan gorrach cynllwyngar ac yn anymwybodol o'i wreiddiau teuluol go iawn, mae dyn ifanc yn cychwyn ar daith epig. Cyn hir, mae tynged yn ei arwain at gleddyf maluriedig, draig frawychus a'r fodrwdy felltigedig y mae hi'n ei gwarchod, a Valkyrie sy'n cael ei gorfodi i gysgu dan gyfaredd... 

Mae eiliadau o harddwch trosgynnol a buddugoliaeth arwrol yn disgleirio yn nhrydedd bennod y Ring Cycle gan Wagner, ac mae ysbrydoliaeth Barrie Kosky yn dod â’r cyfan yn fyw yn dilyn ei gynyrchiadau ysblennydd Das Rheingold (2023) a Die Walküre (2025). Mae Andreas Schager, yn ei ymddangosiad cyntaf hirddisgwyliedig gyda'r Royal Opera, yn serennu fel arwr teitl yr opera Siegfried, ochr yn ochr â Christopher Maltman fel y Wanderer tal, Peter Hoare fel y Mime bradwrus ac Elisabet Strid fel y Brünnhilde ddisglair. Mae Antonio Pappano yn arwain, gan dynnu allan y tensiynau distaw a chyfriniaeth arallfydol sgôr ddeinamig Wagner.

Bydd y sioe ar 31 Mawth yn cael ei ffrydio’n fyw.

Mae’r sioe ddilynol ar y 5 Ebrill yn recordiad. 

£18 (£17)