Eugene Onegin (12A As Live)

MET OPERA MEWN CYSYLLTIAD Â RBO

Yn dilyn ei début gyda’r cwmni yn 2024 yn Madama Butterfly gan Puccini, mae’r soprano Asmik Grigorian yn dychwelyd i’r Met fel Tatiana, yr arwres ifanc dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad, yn yr addasiad operatig brwd hwn o Pushkin. Unwaith eto, mae’r bariton Igor Golovatenko yn cyflwyno ei bortread o’r Onegin bonheddig, sy’n sylweddoli’n rhy hwyr ei fod yn hoff ohoni. Mae cynhyrchiad atgofus y Met, dan gyfarwyddyd yr enillydd Gwobr Tony, Deborah Warner, “offers a beautifully detailed reading of … Tchaikovsky’s lyrical romance” (The Telegraph).

Bydd y sioe ar 5 Mai yn cael ei ffrydio’n fyw. 

£18 (£17)