Tinariwen with support / gyda chefnogaeth gan Kizzy Crawford

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

CHEFNOGAETH GAN KIZZY CRAWFORD

DRYSAU: 18:30

CERDDORIAETH O: 19:45

Mae Tinariwen yn frenhinoedd ac yn freninesau ‘assouf’ (barddoniaeth gitâr) ac yn un o allforion cerddorol mwyaf llwyddiannus a chyffrous Affrica. Mae eu grŵfs hiraethus a negeseuon digyfaddawd am symlrwydd a rhyddid, wedi eu distyllu dros flynyddoedd o ymdrechu, gwrthryfel ac alltudiaeth, wedi ennill gwobrau a chlod mawr iddynt, ynghyd â sylw edmygwyr proffil uchel megis Robert Plant, Carlos Santana, The Edge a Thom Yorke, a pharch bythol eu pobl eu hun. Yn hynod ddylanwadol, yn gyffrous tu hwnt, dyma i chi gerddoriaeth o ddechreuad amser i gyffro eich enaid a’ch traed.

Cyflwyniad di-dâl cyn y sioe

Mae gennym gyfle gwych i aelodau cynulleidfa Tinariwen i ddod i gyflwyniad cyn y sioe gydag Andy Morgan. Mae Andy yn ysgrifennwr, yn newyddiadurwr, yn gyn-reolwr y band, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr am Tinariwen a chreu’r Sahara newydd. Mae hefyd yn gyfaill da i’r band a bydd yn gyfle hyfryd i ddysgu ychydig yn fwy ynglŷn â tharddle’r gerddoriaeth aruthrol hon cyn mynd ymlaen i wrando ar y band!

Cynigwn hyn am ddim ar sail y cyntaf i’r felin i ddeiliaid tocynnau gig Tinariwen. Bydd y drysau’n agor am 6.30 a chynhelir y sgwrs am 6.45 yn y Pafiliwn. Dechreua’r sioe am 7.45.

 

GWYBODAETH HANFODOL

Ni ddarperir unrhyw seddau yn y digwyddiad hwn, fodd bynnag bydd croeso i chi ddod â’ch seddau gwersylla chi eich hun. DS – cedwir yr ardal yn syth o flaen y llwyfan yn glir ar gyfer dawnsio.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell.

Bydd y brif act yn gorffen erbyn 11yh.

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Digwyddiad awyr agored yw hwn yn y bôn.

Dewch â dillad cynnes a gwisgwch esgidiau addas.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwydded hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Yn amodol ar argaeledd, cewch hefyd brynu tocynnau wrth y drws. Argymhellwn brynu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw. 

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

GWYBODAETH TOCYNNAU 

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

• Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)

• Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol

• Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)

• Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad. Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad. Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.

£20
when I hear them I hear the beginning of the music of the Mississippi and of Muddy Waters, Jeff Beck, BB King... this is where it all comes from, they are the originators.
Carlos Santana
proper rebels, and what a wonderful way to advertise a problem to the world: through music… you don’t have to understand the words to hear something deeper in it. It’s the mood that says it all
Damon Albarn

Browse more shows tagged with: