AKA Trio (Antonio Forcione, Seckou Keita & Adriano Adewale)
ANTONIO FORCIONE, SECKOU KEITA, ADRIANO ADEWALE
Mae AKA Trio yn uwchgyfarfod cerddoriaeth byd rhwng tri phencampwr byd enwog:
Antonio Forcione (Yr Eidal), Seckou Keita (Senegal) and Adriano Adewale (Brasil).
Mae Antonio Forcione, y gitarydd-cyfansoddwr o’r Eidal, wedi bod yn teithio’r byd am dros ddau ddegawd, gan ryddhau ugain albwm a chydweithio gyda nifer o artistiaid o bwys ar hyd y ffordd, gan gynnwys enwogion megis Charlie Haden, Trilok Gurtu, Angelique Kidjo a’r Bulgarian Voices, ymhlith nifer mwy. Seckou Keita o Senegal yw un o’r chwaraewyr kora gorau’r byd, yn gysylltiedig â nifer o brosiectau rhyngwladol, gan gynnwys ei deuawd arloesol gyda’r delynores Gymreig Catrin Finch, Africa Express gyda The Orchestra of Syrian Musicians, a’i brosiect Transparent Water gyda’r pianydd o Giwba, Omar Sosa. Mae Adriano Adewale, yr offerynnwr taro a’r cyfansoddwr o Frasil, wedi cydweithio â Bobby McFerrin, Joanna McGregor a Benjamin Taubkin ac mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cerddorfeydd a theatrau dawns.
Gyda’i gilydd maen nhw’n cydweithredu ac yn cyfuno i greu uniad rhyngwladol sy’n hyfryd o wreiddiol.
www.aka-trio.com