Rigoletto on the Lake (12A)
O Bregenz Festival, Austria
Caiff campwaith Giuseppe Verdi - yn gymhellol, yn oeri’r gwaed, yn hardd - ei berfformio am y tro cyntaf ar lwyfan unigryw llyn Bregenz. Yn un o ddarnau gwaith mwyaf poblogaidd Verdi, mae Rigoletto yn chwedl fythgofadwy am
aberth a dial; am ddicter tad a chywilydd merch. Mae’n cynnwys nifer o ariâu mwyaf adnabyddus byd opera gan gynnwys “Cortigiani, vil razza dannata” a “Caro nome”. Cyfarwyddwyd a dyluniwyd gan Philip Stölzl, bydd y trasiedi fythol hon yn plesio cynulleidfaoedd gyda chyfuniad nerthol o ddifyrrwch a dwyster emosiynol o lan ysblennydd Llyn Constance.
Bydd Idris Rees y cerddor proffesiynol, athro ac edmygwr opera yn ail-ddechrau’r sesiynau sgwrsio cyn y sioe ar gyfer y tymhorau Opera newydd ac mae ganddo hyn i’w ddweud am yr hyn sydd i ddod….
"Felly beth sydd gennym i gynnig am £16.00 [nid £70, £80 neu hyd yn oed £200] y perfformiad? Yn gyntaf, mae gennym ddwy farn wahanol ar weithgareddau Don Juans y byd hwn. Y dyngarwyr, y merchetwyr sydd wedi bod yno erioed ac sydd yno o hyd. Mae yna un sydd yn gyson yn y newyddion ac yn datgan nad oedd dynion i fod yn ffyddlon i un fenyw yn unig, trueni ei fod yn cario'r athroniaeth honno i'w wleidyddiaeth hefyd. Boed hynny fel y bo, yn gyntaf mae gennym Mozart gyda'i Eidalwr Don Giovanni - rhydd-feddyliwr sydd wedi gadael trywydd o ferched sydd wedi eu swyno ganddo ledled Ewrop. Mae'r dynged olaf sy’n dod i’w ran yn bwerus ac yn gyfiawn. Darparodd Rigoletto ddiweddglo gwahanol iawn, trasiedi sy'n gweld y dug cyfeiliornus yn dianc yn ddi-gosb tra bod y ferch dlawd y mae wedi'i hudo yn marw ym mreichiau ei thad."
Sgyrsiau cyn y sioe yn yr oriel gelf 6.30 yh.
Running time: approx. 150mins (inc. interval)
£15 (£14)