Breabach
Mae Breabach yn parhau i adeiladu ar eu henw da am fod ar flaen sîn cerddoriaeth byd a cherddoriaeth gwreiddiau’r DU gyda pherfformiadau ledled y byd trwy gydol 2019, a’u 6ed albwm stiwdio clodfawr gan y beirniaid ‘Frenzy of the Meeting’ yn cael ei ryddhau.
Gwnaeth y band a enillodd Albwm y Flwyddyn BBC Scotland 2016 am eu halbwm diwethaf ‘Astar’, hefyd gipio teitl Band y Flwyddyn yn yr un gwobrau. Mae eu dawn gerddorol unigryw, sy’n cyfuno bagbibau dwbl, ffidl, bas a gitâr gyda chanu Gaeleg a dawnsio stepiau wedi denu dilynwyr iddynt o bob ban o’r byd ac wedi arwain at gael eu henwebu unwaith yn ragor yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 a Gwobrau Cerddoriaeth Songlines 2017.
Mae Breabach wedi teithio’r byd ac wedi ymddangos mewn gwyliau a chanolfannau sy’n amrywio o Dŷ Opera Sydney, Gŵyl Gerddoriaeth Byd Ulsan De Corea, i Central Park Efrog Newydd a Womad Seland Newydd. Yn ystod 2019, maen nhw wedi teithio ar draws y DU, yr Almaen, Awstria, Sbaen a Chanada yn ogystal â pherfformio yn rhai o wyliau blaenaf Ewrop gan gynnwys Tønder (Denmarc), Heb Celt (yr Alban), Boomtown Fair a Wickham (Lloegr) i enwi ond ychydig. Ar hyn o bryd maen nhw’n cynllunio cyfnodau teithio ar gyfer 2020, ac mae’n debyg y byddant yn brysurach nag erioed
£15 (£14)