Rocketman (15) @ CASTELL ABERTEIFI / CARDIGAN CASTLE

Hyrwyddiad ar y cyd gan Mwldan - Castell Aberteifi, gyda chefnogaeth gan Theatr y Torch

Drysau:7.00pm

Mae’n bleser gennym fod ein tymor sinema awyr agored yn dychwelyd i’r Castell eleni. Mae gennym ddetholiad o ffilmiau rydyn ni'n meddwl y byddwch chi’n eu mwynhau’n fawr iawn yn amgylchedd hardd, llawn naws Castell Aberteifi. Nosweithiau o haf i’w cofio...

Ffantasi gerddorol epig sy’n adrodd stori ddynol heb ei sensro am flynyddoedd Syr Elton John yn torri tir newydd. O’i amser fel rhyfeddod yn yr Academi Cerdd Frenhinol, i’w bartneriaeth gerddorol ddylanwadol a pharhaol gyda Bernie Taupin, mae’r ffilm hefyd yn siartio ei frwydrau gydag iselder, camddefnydd sylweddau a’i lwybyr tuag at dderbyn ei gyfeiriadedd rhywiol.

Oedolion: £10 o flaen llaw, £12 ar y dydd

121'

Browse more shows tagged with: