JOYRIDE (15) - Socially distanced / Mesurau cadw pellter cymdeithasol

Emer Reynolds | Ireland | 2022 | 94’ 

Yn y ddrama gomedi hon, mae Olivia Colman yn chwarae rhan Joy, menyw sy’n cael bywyd yn anodd gyda babi, bod yn fam a cholli ei breuddwydion. Mae Mully, sy’n ddeuddeg oed, yn gweld eisiau mam yn ei fywyd ac mae ganddo dwyllwr yn dad iddo sy’n manteisio ar ei ddiniweidrwydd. Pan mae Mully yn dwyn arian parod ei Dad a thacsi, nid yw’n disgwyl dod o hyd i Joy a’i babi hi yn y sedd gefn. Felly mae antur wyllt yn dechrau i’r ddau, gan greu anhrefn a sbort wrth iddynt deithio trwy Iwerddon ac anelu at gyrraedd harddwch gwyllt Kerry. 

£7.70 (£5.90)

**ARGYMHELLIR ARCHEBU TOCYNNAU O FLAEN LLAW OHERWYDD CAPASITI CYFYNGEDIG**

Browse more shows tagged with: