Marcel The Shell with Shoes On (PG)
Dean Fleischer-Camp | USA | 2021 | 90’
Cragen annwyl un fodfedd o daldra yw Marcel sy'n byw bywyd lliwgar gyda'i fam-gu Connie a'u darn o fflwff anwes, Alan. Ar un adeg, roeddent yn rhan o gymuned wasgarog o gregyn, ond bellach maen nhw’n byw ar eu pen eu hunain fel goroeswyr trasiedi ddirgel. Ond pan mae gwneuthurwr ffilmiau dogfen yn eu darganfod ymhlith annibendod yn ei Airbnb, mae'r ffilm fer y mae'n ei phostio ar-lein yn denu miliynau o ffans brwd i Marcel, yn ogystal â pheryglon anghyfarwydd a gobaith newydd o ddod o hyd i'w deulu coll. Mae cymeriad annwyl yn ymddangos am y tro cyntaf ar y sgrin fawr yn y stori ddoniol a chalonogol hon am ddod o hyd i gysylltiad yn y cyrion lleiaf.
£7.70 (£5.90)