NEXT GOAL WINS (12A)

Taika Waititi | UK | USA | 2023 | 104’

Mae Next Goal Wins, sydd wedi'i chyfarwyddo gan Enillydd Gwobr yr Academi Taika Waititi (Jojo Rabbit, Thor: Ragnarok), yn dilyn tîm pêl-droed Samoa Americanaidd, sy'n enwog am golli’n druenus 31-0 mewn gêm FIFA yn 2001. Gyda Gemau Cymhwyso Cwpan y Byd yn agosáu, mae'r tîm yn cyflogi’r hyfforddwr anghonfensiynol ac anlwcus Thomas Rongen (Michael Fassbender) gan obeithio y bydd yn trawsnewid tîm pêl-droed gwaethaf y byd yn y gomedi dwymgalon hon. Wedi’i hysbrydoli gan raglen ddogfen ddidwyll 2014 o’r un enw, a oedd yn manylu ar y cynnydd annhebygol a ddaeth i ran y tîm.

£8.40 (£7.70, £5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Fawrth 23 Ionawr @ 7.30pm 

Browse more shows tagged with: