Back

BEST BEFORE: The Mark Thomas Comedy Product Vintage Cuts

Mae gennym ni ddigwyddiad gwych arall gan Mark Thomas i’w ffrydio'n fyw i chi. Y tro hwn bydd Mark yn ailedrych ar ei sioe ar Channel 4 The Mark Thomas Comedy Product, gan ddewis rhai o'i hoff glipiau a thrafod gyda chynhyrchydd y gyfres.  

Dydd Iau 19 Tachwedd 7.30pm, ac os archebwch drwy'r ddolen isod, cewch ddolen YouTube breifat a rhoddir 20% o'r enillion i gefnogi’r Mwldan. 

Caiff The Mark Thomas Comedy Product ei ffrydio’n fyw trwy YouTube Ddydd Iau 19 Tachwedd am 7.30pm archebwch drwy'r ddolen ar ein gwefan a bydd 20% o'r enillion yn cael eu rhoi i gefnogi’r Mwldan. 

 

Am 7 mlynedd, 6 chyfres a llu o raglenni arbennig, achosodd The Mark Thomas Comedy Product anhrefn ar donnau awyr Channel 4. Hon oedd y sioe a osododd yr agenda. Roedd yn herio gwleidyddion, yn costio eu gyrfaoedd iddynt, siaradwyd amdani yn y Senedd, ymddangosodd ar dudalennau blaen y Guardian ac yn y bôn cafodd tipyn o sbri.   

Nawr mae Mark a Geoff Atkinson, cynhyrchydd y sioe, yn edrych yn ôl ar y rhaglen yn y gyntaf mewn cyfres o raglenni arbennig a ddarlledwyd ar YouTube. Gan ddangos eu hoff glipiau, bydd Mark a Geoff yn fyw ac yn trafod yr antur a oedd yn sicr o ganslo ei hun, cyn i'r sianel fynd ati i ganslo. 

£5
Canllaw Oedran - 15 (peth rhegi)

Browse more shows tagged with:

Top