Back

TEITHIO A CHYNYRCHIADAU

 

Mae’r Mwldan yn datblygu ac yn creu nifer o gynyrchiadau proffesiynol a phrosiectau teithiol bob blwyddyn, gan arbenigo'n bennaf mewn cerddoriaeth byd, cerddoriaeth draddodiadol a drama. Mae'r prosiectau hyn yn mynd o gwmpas Cymru, i leoliadau eraill yn y DU ac i wyliau, yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn 2017 lansiwyd y label recordiau bendigedig mewn partneriaeth ag ARC Music Productions Ltd i gwblhau'r model 360 gradd o gynhyrchu, teithio a rhyddhau ledled y byd.

Ymdrechwn i gyflawni'r safonau uchaf o ran ansawdd ac ymgais artistig, gan annog cydweithio a chyfnewid artistig, gan gymryd rhan mewn sgyrsiau creadigol gydag artistiaid a chwmnïau er mwyn cyflawni nodau ac amcanion cyffredin, ac rydym yn hynod angerddol am yr hyn a wnawn.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu un o'n cynyrchiadau teithiol ar gyfer eich lleoliad? E-bostiwch Dilwyn@mwldan.co.uk.


Cymrwch olwg ar ein cynyrchiadau yma:

2024

VRï

Top
T