Back

A Christmas Carol - A Live Radio Play

Mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd y gaeaf hwn gyda fersiwn drama radio byw o stori glasurol barhaol Dickens, A Christmas Carol - drama i swyno'r hen a'r ifanc fel ei gilydd yn llawn naws Nadoligaidd, cyfarfyddiadau ysbrydion, caledi ac achubiaeth. Efrog Newydd, 1946. Mae’r Ail Ryfel Byd newydd ddod i ben. Mae actorion WBFR Playhouse of the Air yn cwrdd yn y stiwdio ar gyfer eu darllediad Noswyl Nadolig blynyddol. Pa sgriptiau gwell i’w cyfarch eleni, na chlasur cant oed Dickens a wnaeth lunio’r Nadolig ei hun? Daw llond llaw o actorion o America â dwsinau o gymeriadau Fictoraidd o’r Hen Lundain i fywyd, wrth i’r stori gyfarwydd ddatblygu…Mae tri ysbryd yn cludo Ebenezer Scrooge ar daith i’w addysgu am wir ystyr y Nadolig…. Yn dilyn llwyddiannau o It’s A Wonderful Life a Miracle on 34th Street, mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd, yn ôl galw poblogaidd, gyda Chlasur Nadoligaidd arall. Wedi ei gosod yn stiwdio ddarlledu New York Live yn 1940au, bydd A Christmas Carol yn teithio dros Gymru, gan ddod â phrofiad unigryw theatraidd a darlledu i theatr yn eich ardal. Cyfarwyddwyd gan Joe Harmston | Cynlluniwyd gan Sean Cavanagh | Foley artist, cerddoriaeth ychwanegol a chyfarwyddwr cerdd - Kieran Bailey. 

Cyd-gynhyrchiad Canolfan Celfyddydau Pontardawe a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd.

£15 (£13)

Browse more shows tagged with:

Top