Back

ILLYRIA: THE HOUND OF THE BASKERVILLES

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

 

Pwy laddodd Syr Charles Baskerville? A all unrhyw un rhwystro’r un peth rhag digwydd i Syr Henry Baskerville ifanc? A oes ci arswydus wir yn crwydro Dartmoor? Pam mae rhywun yn dwyn esgidiau Syr Henry o hyd? A sut mae ci annaearol yn llwyddo i adael olion pawennau enfawr a thystiolaeth ddigroeso arall o'i fodolaeth? Mae’r ditectif llenyddol gwreiddiol a’r gorau ohonynt oll, Sherlock Holmes, a’i gynorthwyydd Doctor Watson, yn mynd i’r afael ag achos mwyaf dryslyd eu gyrfaoedd yn yr addasiad ffyddlon, haerllug ond iasoer hwn. Mae dirgelwch a chynllwyn yn cyrraedd uchelfannau newydd wrth i’r ddau dditectif chwedlonol lywio’r rhostiroedd peryglus a’r felltith ddirgel sy’n poenydio teulu’r Baskerville. O dirweddau golau lleuad iasol Dartmoor i gliwiau cryptig, mae’r addasiad gafaelgar hwn yn mynd ati i asio tensiwn a ffraethineb yn gelfydd. A hithau’n sioe sy’n cael ei pherfformio yn yr awyr agored gan Illyria, paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy o ddirgelwch, cynllwyn a phethau sy’n mynd ‘grrrr’ yn y nos! 

Hyd y perfformiad: (tua) 140 munud (gan gynnwys egwyl o 20 munud).

Yn addas ar gyfer oedran 8+.

£18 (£16 Concession) (£10 Plant)

 

GWYBODAETH HANFODOL:

  • Digwyddiad awyr agored yw hwn. Awgrymwn fod cwsmeriaid yn gwisgo esgidiau addas ac yn dod â siaced / dilledyn cynnes gan ei bod yn gallu oeri gyda’r hwyr a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal boed law neu hindda.
  • Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau i'r sioeau hyn.
  • Ni ddarperir unrhyw gadeiriau yn y digwyddiad hwn. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau.
  • Peidiwch â dod ag ymbarelau gyda chi oherwydd gall y rhain gyfyngu ar yr olygfa i eraill.
  • Ni chaniateir ysmygu na fêpio ar y safle.
  • Peidiwch â dod ag alcohol na gwydr i'r safle.
  • Bydd bar gyda diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar gael ar y safle.
  • Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
  • Mae yna fynediad gwastad i’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar safle Castell Aberteifi.
  • Ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn tywys.
  • Y Mwldan yw’r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Mae’n bosibl bydd tocynnau ar gael wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau i osgoi cael eich siomi.
  • Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â Chastell Aberteifi gallwch 01239 615131.

Browse more shows tagged with:

Top