Back

MUGENKYO TAIKO DRUMMERS: IN TIME 30th Anniversary Tour

Ymunwch â dathliad pen-blwydd nodedig Mugenkyo yn 30 oed, gyda sioe arbennig iawn o guriadau mawr, rhyfeddodau gweledol ac egni hanfodol.

Gan fynd â’r gynulleidfa ar daith ‘drwy amser’, dyma i chi siwrnai wefreiddiol ar hyd eu 30 mlynedd. Mae’r cyngerdd yn brofiad theatrig cyflawn, gyda choreograffi deinamig a rhythmau nerthol yn cyferbynnu â seinweddau llawn naws.

Mae Mugenkyo, sef grŵp taiko mwyaf hirsefydlog Ewrop, a gydnabyddir yn eang fel arloeswyr sy’n torri tir newydd yn y ffurf gelfyddydol gyffrous hon, gan wefreiddio cynulleidfaoedd mewn miloedd o berfformiadau ledled y byd, bellach yn dychwelyd gyda’u taith fawr gyntaf yn y DU ers bron i bum mlynedd.

Yn y cyfamser, mae Mugenkyo wedi bod yn brysur ar brosiectau fel cydweithio ar y “World of Gods” uchelgeisiol gyda Cherddorfa Jazz Genedlaethol yr Alban, ffilmio ar gyfer y ffilm Hollywood “Tin Soldier” yng Ngwlad Groeg gyda Jamie Foxx a Robert DeNiro, pythefnos yn Expo’r Byd yn Dubai, Gemau Olympaidd Tokyo gyda Theledu’r BBC, 26 dyddiad yn yr Adelaide Fringe, y prosiect safle-benodol “Fire & Light”, gweithdai a pherfformiadau ar-lein rheolaidd, ynghyd ag ailadeiladu eu stiwdio breswyl bwrpasol.

Yn 2024, maen nhw’n dychwelyd i deithio gyda pherfformiad gwefreiddiol a dyrchafol o ddawn, stamina ac enaid, jyst ‘mewn pryd’ ar gyfer y parti Pen-blwydd arbennig hwn! Peidiwch â'i golli!

£27 (£24 o dan 18 oed)

This show is not one to be missed.
Edinburgh Evening News
Lightning-fast synchronisation & complex rhythms on huge barrel-sized instruments. Hypnotic and primal, the show is an entrancing display of physicality, precision and discipline.
The List
Mugenkyo showcases its musical presentation in totally modern style, making the esoteric thoroughly pop… sustaining its appeal right to the climax, winning thunderous applause.
The Stage
Unashamedly drumming as theatre, but also drumming as an almost religious experience…. exhilarating to behold.
The Glasgow Herald

Browse more shows tagged with:

Top