Back

VRï

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN 


VRï yw - Jordan Price Williams (sielo, llais), Aneirin Jones (ffidil, llais) a Patrick Rimes (fiola, ffidil, llais) - tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru, gyda’i hanes hirfaith o fynychu’r capel. Aethant ati i gloddio i gynnwrf diwylliannol y canrifoedd diwethaf a chawsant eu hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu llethu gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno. Mae harmonïau tair rhan, chwarae ffidil syfrdanol ac ychwanegiad anarferol y sielo yn creu sain VRï sy’n gwbl unigryw. Ers ffurfio yn haf 2016, mae’r triawd wedi bod yn chwilio am esthetig ‘gwerin-siambr’ - gan gyflwyno eu halawon dawns brodorol bywiog tra’n cynnal gosgeiddrwydd a cheinder ensemble llinynnol. Mae VRï wedi taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, harddwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn dafarn. Mae'n syniad traws-genre sy’n gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd yn Sgandinafia a Gogledd America ond sy’n anghyfarwydd yng Nghymru hyd yn hyn.


Mae’r enw VRï yn air Cymraeg, sy’n golygu ‘uwchben’, ‘uchod’, ‘arnofio’, yn syml... ‘i fyny!’ gyda sillafiad sydd wedi’i ysbrydoli gan Hen Gymraeg. Mae’n disgrifio’r teimlad o chwarae’r math hwn o gerddoriaeth siambr leisiol a llinynnol - pob un o'r chwe llais yn rhyngweithio'n annibynnol â'i gilydd, heb unrhyw fath o ‘angor’ neu raffau diogelwch (boed y rheiny’n rhai rhythmig fel cit drymiau, neu yn rhai harmonig megis offerynnau cribellog neu allweddellau). Mae’n brofiad sy’n cyffroi’r perfformwyr cymaint ag y mae’n eu dychryn... a gobeithio ei fod yn bleserus i’r gwrandawyr hefyd!

 

AR DAITH 2024:

MAI

05 Dulwich Folk Night

10  Tredegar House Folk Festival 

 

GORFFENNAF

02 Acapela, Caerdydd

 

AWST

16 Edinburgh International Festival

 

Browse more shows tagged with:

Top