Back
Top
The Aftermath (15)
James Kent | 2019 | UK | USA | Germany | 109’
Ym 1946 mae Rachael Morgan (Keira Knightley) yn cyrraedd adfeilion Hamburg er mwyn ailuno â’i gŵr, cyrnol Prydeinig a chanddo’r cyfrifoldeb o ailadeiladu’r ddinas ddifrodedig. Yn ddiarwybod i Rachael, bydd yn rhaid iddynt rannu eu cartref crand gyda’i gyn-berchnogion, Almaenwr gweddw a’i ferch flinderus. Yn yr awyrgylch straenllyd hwn, mae gelyniaeth a galar yn ildio i nwyd a brad.
£7.50