Back

Exhibition On Screen: MY NATIONAL GALLERY

Mae Oriel Genedlaethol Llundain yn un o orielau celf mwyaf y byd. Mae’n llawn campweithiau, yn adnodd diddiwedd o hanes, yn ffynhonnell ddiddiwedd o straeon. Ond straeon pwy sy'n cael eu hadrodd? Pa gelfyddyd sy'n cael yr effaith fwyaf ac ar bwy? Daw grym celf wych o’i gallu i gyfathrebu ag unrhyw un, waeth beth fo'u gwybodaeth am hanes celf, eu cefndir, eu credoau.

Mae’r ffilm hon yn rhoi llais i’r rheiny sy’n gweithio yn yr oriel – o lanhawr i guradur, swoddog diogelwch i gyfarwyddwr – ac yn nodi’r un gwaith celf sy’n golygu’r mwyaf iddyn nhw a pham. Mae amrywiaeth o bobl o bob cefndir sydd â chysylltiad cryf â'r oriel yn gwneud dewisiadau rhyfeddol gan gynnwys gweithiau celf adnabyddus a llai adnabyddus hefyd. Yn olaf, mae rhai enwogion adnabyddus yn esbonio at beth maen nhw'n mynd pan fyddant yn ymweld â'r oriel.

Defnyddir y straeon hyn fel lens i archwilio hanes 200 mlynedd yr Oriel Genedlaethol a'r hyn a all fod yn y dyfodol i'r gofod ysblennydd hwn.

Mae gan bawb yn y ffilm hon gysylltiad arbennig â'r Oriel Genedlaethol, sy'n arwain at greu straeon twymgalon, teimladwy a syfrdanol.

Daw enwogion hoffus, aelodau staff ymroddedig ac arbenigwyr o safon fyd-eang at ei gilydd i beintio portread unigryw o’r sefydliad Prydeinig eiconig hwn ar gyfer ei ben-blwydd yn 200 oed.

£12 (£10)

Browse more shows tagged with:

Top